Cyngherddau a Sioeau Nos

Bwrlwm o weithgareddau’r nos yn ystod Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch 2015.

Cyngerdd Agoriadol
Nos Sul 24 Mai 2015 – Pafiliwn yr Eisteddfod

 

Dyma gyngerdd teilwng i agor Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch. Ar y llwyfan bydd gwledd i’r llygad a’r glust wrth i rai o sêr amlycaf yr ardal a thu hwnt ymuno i lwyfannu cynhyrchiad cwbl wefreiddiol ar eich cyfer chi. Mae’n argoeli i fod yn noson i’w chofio!

Byddwn yn rhyddhau enwau’r artistiaid yn fuan.

Prynu Tocynnau Cyngerdd Agoriadol

 

 

Sioe Gynradd – 'Y Dyn Na Fu Erioed' gan Sara Lewis.
Nos Fawrth 26 Mai 2015 – Pafiliwn yr Eisteddfod

sioe-gynradd.jpg

Stori am ddewrder, arwriaeth ac ysbio yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, mae Sioe Cynradd Eisteddfod Caerffili 2015, ‘Y Dyn Na Fu Erioed’ yn olrhain bywyd bachgen o Aberbargoed a newidiodd cwrs hanes am byth. Dros 150 o blant blynyddoedd 5 a 6 o’r 11 ysgol Cyfrwng Cymraeg yn dod ynghyd i lwyfannu’r sioe arbennig yma gan Sara Lewis a Dyfan Jones.

Cynhyrchydd: Sara Lewis
Cyfarwyddwr Cerdd: Dyfan Jones
Coreograffydd: Elan Issac

Noddir y Sioe Gynradd gan Gyngor Tref Caerffili.

Prynu Tocynnau Sioe Gynradd

 

 

Sioe Ieuenctid – ‘Chwarae Cuddio’ gan Sara Lewis.
Nos Sadwrn 23 a Nos Lun 25 Mai 2015 – Sefydliad y Glowyr, Coed Duon

sioe-ieuenctid.jpg

Y rhyngrwyd Mali; rhwydweithiau; nage lle i gadw cyfrinach yw'r wê - mae llond trol o drwbl yn cwato yn y canol". Stori gyfoes am y beryglon y we a’i effeithiau a’r bobl ifanc.

Noddir y Sioe Ieuenctid gan Brifysgol De Cymru

 

 

 

Cyfarwyddwr: Morgan Hopkins
Cyfarwyddwr Cerdd: Steffan Rhys Williams
Coreograffydd: Holly Parker

Prynu Tocynnau Sioe Ieuenctid